Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

5 Chwefror 2018

SL(5)178- Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016  (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2018

Gweithdrefn: Negyddol

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 186 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ("y Ddeddf").

Mae’r Ddeddf yn cyflwyno system newydd o reoleiddio gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru, gan ddisodli’r un a sefydlwyd gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“Deddf 2000”)

Mae Rhan 1 o'r Ddeddf yn disodli'r system gofrestru ar gyfer darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol, a nodir yn Rhannau 1 a 2 o Ddeddf 2000, lle'r oedd sefydliadau ac asiantaethau wedi’u cofrestru. Roedd hyn yn gofyn am gofrestriad ar wahân ar gyfer pob lleoliad lle darperir gwasanaeth.

Mae'r Ddeddf yn cymryd agwedd wahanol sy'n seiliedig ar wasanaeth. Rhaid i ddarparwr gofrestru gyda Gweinidogion Cymru er mwyn darparu unrhyw wasanaeth gofal a chymorth sy'n cael ei reoleiddio o dan y Ddeddf, a bydd y cofrestriad hwnnw'n cynnwys manylion yr holl leoliadau lle mae'r darparwr yn darparu'r gwasanaeth rheoleiddiedig.

Cychwynnir Rhan 1 o'r Ddeddf ar 2 Ebrill 2018 mewn perthynas â'r gwasanaethau rheoleiddiedig a ganlyn:

(a) gwasanaeth cartref gofal,

(b) gwasanaeth llety diogel,

(c) gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd; a

(ch) gwasanaeth cymorth cartref.

Bydd sefydliadau ac asiantaethau sy'n darparu lleoliadau mabwysiadu, maethu ac oedolion yn parhau i fod yn destun cofrestru ac arolygu o dan Ddeddf 2000 hyd at gychwyn Rhan 1 o'r Ddeddf yn llawn.

Mae Rheoliad 2 ac Atodlen 1 yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i'r cychwyn rhannol hwn.

Mae Rheoliad 3 ac Atodlen 2 yn pennu'r is-ddeddfwriaeth a ddiddymir gan y Rheoliadau hyn.

Deddf wreiddiol: Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Fe’u gwnaed ar: 17 Ionawr 2018

Fe’u gosodwyd ar: 19 Ionawr 2018

Yn dod i rym ar: 2 Ebrill 2018

SL(5)177 - Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018

Gweithdrefn: Cadarnhaol

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 186 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ("y Ddeddf") sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol lle mae'n briodol at ddibenion y Ddeddf.

Mae'r Rheoliadau'n ymdrin â diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol sy'n deillio o gychwyn y darpariaethau yn Rhan 1 o'r Ddeddf sy'n ymwneud â rheoleiddio cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel, gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd a gwasanaethau cymorth cartref yng Nghymru. Mae'r rhain yn enghreifftiau o'r hyn y mae’r Ddeddf yn cyfeirio atynt fel "gwasanaethau rheoleiddiedig".

Mae'r rhain i gyd yn wasanaethau sydd wedi'u rheoleiddio o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ("Deddf 2000"). Mae llawer o'r diwygiadau felly yn disodli cyfeiriadau at un o'r mathau o sefydliad neu asiantaeth a gafodd eu rheoleiddio o dan Ddeddf 2000, ac yn rhoi cyfeiriadau at y math priodol o "wasanaeth rheoleiddiedig" o dan y Ddeddf yn eu lle.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn cynnwys un diwygiad a wneir o dan adran 198 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ("Deddf 2014"). Mae Rheoliad 52 yn diwygio adran 86 o Ddeddf 2014 i ddileu geiriad sy'n awgrymu bod angen i lety a ddarperir, a gynhwysir neu a gynhelir gan Weinidogion Cymru ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, o reidrwydd fod yn gartref plant.

Deddfau gwreiddiol: Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014:

Fe’u gwnaed ar: heb ei nodi

Fe’u gosodwyd ar: heb ei nodi

Yn dod i rym ar: 2 Ebrill 2018 2017

SL(5)179 - Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2018

Gweithdrefn: Cadarnhaol

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 2016

Mae Adran 80 (1) (b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ("y Ddeddf") yn ei gwneud yn ofynnol i Ofal Cymdeithasol Cymru gadw cofrestr o weithwyr gofal cymdeithasol o'r fath ddisgrifiad a bennir gan Weinidogion Cymru . 

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu disgrifiad ychwanegol o weithwyr gofal cymdeithasol y mae'n rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru gadw cofrestr ohonynt, sef y rheiny sy'n cael eu cyflogi neu eu cynnwys gan wasanaeth cymorth cartref rheoleiddiedig i ddarparu gofal a chymorth i bersonau y cyfeirir atynt ym mharagraff 8 o Atodlen 1 i'r Ddeddf.

Deddf wreiddiol: Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Fe’u gwnaed ar: heb ei nodi

Fe’u gosodwyd ar: heb ei nodi

Yn dod i rym ar: 2 Ebrill 2018